Euros Lyn
  • Gwaith
    • Kiri
    • Damilola, Our Loved Boy
    • Y Llyfrgell
    • Daredevil
    • Capital
    • Happy Valley
    • Black Mirror: Fifteen Million Merits
    • Sherlock
    • Broadchurch
    • Cucumber
    • Last Tango In Halifax
    • Doctor Who
  • Hanes
  • Gwobrau
  • Cyswllt
  • English
Picture

Astudiodd Euros Lyn ddrama ym Mhrifysgol Manceinion cyn cyfarwyddo rhaglenni gan gynnwys Pam Fi Duw?, Iechyd Da ac Y Glas.  Ennillodd Ysgoloriaeth Goffa Ymddiriedolaeth Saunders Lewis yn 1999 i dreulio cyfnod yn Nenmarc yn astudio'r diwydiant ffilm yno.  Mae wedi cyfarwyddo dwy ffilm i S4C - Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (2000) a Gwyfyn (2003) a ennillodd wobr BAFTA Cymru am y ffilm orau.  Ers 2005 mae wedi bod yn gyfarwyddwr cyson ar yr adfywiad llwyddiannus o Doctor Who, gan gynnwys y bennod The Girl In The Fireplace a enillodd wobr Hugo yn 2007.  Yn 2009 fe gyfarwyddodd y pum pennod o Torchwood: Children of Earth.  Mae wedi ennill Cyfarwyddwr Gorau BAFTA Cymru deirgwaith - y tro mwyaf diweddar am Sherlock gyda Benedict Cumberbatch a Martin Freeman a enillodd cyfres ddrama orau BAFTA a'r RTS.  Euros oedd prif gyfarwyddwr Upstairs Downstairs cafodd ei henwebu am chwech Emmy ac fe gyfarwyddodd un o ffilmiau o gyfres gyntaf Black Mirror â ennillodd Emmy Rhyngwladol am y gyfres ddrama orau 2012.  Ennillodd Last Tango In Halifax, Broadchurch, Happy Valley a Damilola, Our Loved Boy wobrau drama orau BAFTA.  Fe gyfarwyddodd ffilm wedi ei hybrysoli gan nofel Fflur Dafydd Y Llyfrgell cas ei rhyddhau mewn sinemau yn Awst 2016 a'n fwy diweddar bu'n cyfarwyddo Kiri i C4/Hulu.  Ar y funud mae'n cyfarwyddo His Dark Materials i BBC/HBO a'n datblygu prosiectau ffilm.  


Yn ol
  • Gwaith
    • Kiri
    • Damilola, Our Loved Boy
    • Y Llyfrgell
    • Daredevil
    • Capital
    • Happy Valley
    • Black Mirror: Fifteen Million Merits
    • Sherlock
    • Broadchurch
    • Cucumber
    • Last Tango In Halifax
    • Doctor Who
  • Hanes
  • Gwobrau
  • Cyswllt
  • English